Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 3, Senedd a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 19
Tachwedd 2025
Amser:
09.30 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15637
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Buffy Williams AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Cefin Campbell AS Russell George AS Vaughan Gething AS Carolyn Thomas AS |
|
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Sarah Murphy AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Sioned Rees, Llywodraeth Cymru Alex Slade, Llywodraeth Cymru Hywel Jones, Llywodraeth Cymru Rhian Edwards, Medr James Owen, Medr Geoff Hicks, Medr |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Leah Whitty (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Thomas Morris (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddarparu'r canlynol:
- y dyddiad pan fydd y Datganiad Ansawdd Integredig ar Iechyd Plant ar gael.
- rhestr o ymyriadau polisi sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan amlygu y rhai ble y mae angen newid er mwyn gwella’r ddarpariaeth a’r perfformiad mewn ffordd gynaliadwy, a'r meysydd y mae angen buddsoddiad newydd ynddynt.
- ffigurau i ddangos y cynnydd a wnaed gyda'r rhaglen Cynllun Gwên yn y wardiau mwyaf difreintiedig.
- y wybodaeth ddiweddaraf am y Bwrdd Cenedlaethol a sefydlwyd i oruchwylio'r cynllun cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2025 i 2027.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i anfon y cwestiynau a oedd heb eu gofyn i gael ymateb ysgrifenedig iddynt.
3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Medr.
3.2 Cytunodd Medr i roi’r dadansoddiad i'r Pwyllgor o'r gwaith y mae wedi'i wneud ar dueddiadau o ran cofrestru ynghyd â, phan fônt ar gael, canfyddiadau'r ymgynghoriad ar y rhaglen brentisiaeth arfaethedig i bob oedran.
Nodwyd y papurau.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu ateb i’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn â'r llythyr hwn.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.